Dyddiad yr Adroddiad

06/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202301360

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms I fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ysgrifennu at Ms I yn rheolaidd i’w chynghori ynghylch y cynnydd sy’n cael ei wneud ond nad oedd wedi egluro’r rhesymau dros yr oedi cyn cwblhau ei ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms I.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a gofynnodd am gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb o fewn 4 wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ac esboniad ystyrlon am yr oedi.