Dyddiad yr Adroddiad

06/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202301689

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr G nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ymateb iddo i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mehefin 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd cyn ymateb, a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr G. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr G a chynnig iawndal o £250 iddo i gydnabod yr oedi. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.