Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208097

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu ymateb i gŵyn a anfonwyd ganddi ym mis Mehefin 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb a bod hynny wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs D. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs D a chynnig £100 i wneud iawn a chydnabod oedi. Hefyd cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.