Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208695

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Mai 2022 am ofal canser ei gŵr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i Mrs B a’i fod wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd, oedd wedi achosi rhwystredigaeth iddi.

Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs B am yr oedi ac am fethu â darparu diweddariadau rheolaidd, i anfon ymateb i’r gŵyn, a chynnig taliad o £250 i wneud iawn am hynny o fewn 6 wythnos.