Dyddiad yr Adroddiad

03/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207167

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Mehefin 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol yn ymateb y Bwrdd Iechyd a achosodd anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A a chynnig taliad ariannol o £50 iddo i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.