Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207786

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L, er iddi godi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ei hŵyr, nad oedd wedi cael ymateb eto.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu’n unol â’i drefn gwyno statudol, a methodd hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms L yn ystod ei hymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms L am yr oedi a rhoi ymateb iddi o fewn 4 wythnos.