Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207740

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi darparu ymateb i’r gŵyn a wnaeth am ei diweddar ŵr ym mis Medi 2021.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Mrs A yn ystod ei ymchwiliad ond nad oedd wedi darparu ei ymateb i’w chŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A, talu iawndal o £250 iddi, a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.