Dyddiad yr Adroddiad

02/28/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308939

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Mehefin 2023 ynghylch arhosiad ei thad am lawdriniaeth.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi trosglwyddo’r gŵyn i Fwrdd Iechyd gwahanol a oedd yn gyfrifol am y rhestr aros. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu darparu tystiolaeth i’r Ombwdsmon ei fod wedi rhoi gwybod i Ms X bod ei chŵyn wedi cael ei throsglwyddo i Fwrdd Iechyd gwahanol i ymateb iddi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Ms X.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms X o fewn pythefnos am fethu â’i hysbysu bod ei chŵyn wedi cael ei throsglwyddo i Fwrdd Iechyd gwahanol.