Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205658

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr E am y ffordd yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi delio â’i gŵyn am y gofal a ddarparwyd i’w fam.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi rhoi ymateb i gŵyn Mr E. Dywedodd fod hyn yn achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr E. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr E, rhoi esboniad am y methiant hwn, talu iawndal o £150 iddo, a chyflwyno ymateb i gŵyn o fewn 3 mis.