Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu cyfathrebu â hi mewn perthynas â chyfarfod wyneb yn wyneb.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi trefnu cyfarfod â Mrs X. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn cadarnhau ystafell gyfarfod gydag eiriolwr Mrs X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn mis, ymddiheuro i Ms X am yr oedi a fu cyn trefnu cyfarfod, a threfnu cyfarfod gyda Mrs X a’i heiriolwr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.