Cwynodd Mr E bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd, drwy e-bost, ym mis Ebrill 2025.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal chwiliad trylwyr am neges e-bost Mr E, ond na fu’n bosibl ei chanfod, er ei bod wedi’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost cywir. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr E. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr E, o fewn 7 diwrnod gwaith, i ymddiheuro na allent leoli ei e-bost. Cytunodd hefyd i ymchwilio i’r gŵyn a godwyd ganddo.