Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206173

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu darparu ymateb i gŵyn a anfonwyd ato ym mis Chwefror 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod llythyr Ms D ond nad oedd wedi ymateb iddo. Dywedodd fod hyn wedi peri rhwystredigaeth i Ms D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms D ac ymateb i’w llythyr o fewn 6 wythnos.