Dyddiad yr Adroddiad

06/08/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202501514

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Mawrth 2025.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd yn dal i fod o fewn y terfynau amser a nodir yn y broses gwynion, methodd â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr D. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr D. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi llythyrau diweddaru misol nes bod yr ymchwiliad wedi’i gwblhau.