Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi delio â’i gŵyn, am gyfathrebu am yr amser aros ar gyfer llawdriniaeth i osod clun newydd, o dan ei broses datrys cynnar. Roedd Mr A wedi gofyn am ymateb ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd o dan Gweithio i Wella.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb llawn i’r gŵyn i Mr A, penderfynodd yr Ombwdsmon ei fod wedi treulio cryn amser ac ymdrech yn cysylltu â’r Bwrdd Iechyd, er mwyn cael ymateb ffurfiol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 1 mis, yn talu iawndal o £250 i Mr A, am yr amser a’r drafferth a gymerwyd i gael ymateb ffurfiol i’w gŵyn.