Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202408113

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms M fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaeth ar 6 Mehefin 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cryn dipyn cyn delio â’r gŵyn. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos. Dylai gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a chynnig £100 am yr anghyfleustra a achoswyd.