Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2024 ynghylch triniaeth ei diweddar dad yn yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd wedi methu â chyfathrebu ac, o ganlyniad i hyn, nid oedd Miss X wedi cael ymateb ffurfiol i’w chŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro, o fewn pythefnos, i Miss X am fethu â chyfathrebu ac i esbonio pam y digwyddodd hyn, yn ogystal ag anfon ffurflen gwyno a chaniatâd at Miss X. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos o gael y ffurflen gwyno a chaniatâd gan yr achwynydd.