Dyddiad yr Adroddiad

09/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202405842

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi parhau i anfon llythyrau apwyntiad ati yn enw aelod o staff yr oedd wedi cwyno amdano o’r blaen. Roedd derbyn y llythyrau hyn yn achosi gofid diangen.

Er bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud rhai newidiadau i’w brosesau, penderfynodd yr Ombwdsmon fod risg o hyd y gallai Ms X gael llythyrau yn enw’r aelod o staff yn y dyfodol.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a gofyn iddynt ystyried pa gamau pellach y gellid eu cymryd. Tynnodd y Bwrdd Iechyd enw’r aelod o staff o’r system electronig berthnasol, gan ddileu’r risg. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam hwn yn rhesymol ac fe wnaeth setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.