Dyddiad yr Adroddiad

06/19/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206611

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am ei gofal iechyd meddwl. Roedd hi’n anhapus ar ôl iddi gael ei rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Roedd apwyntiad ailasesu wedi dod i’r casgliad hefyd y gellid darparu gwasanaethau drwy ei meddyg teulu. Cafodd yr asesiad hwn ei gynnal ar-lein a gallai glywed sgyrsiau eraill yn y cefndir. Nid oedd yn teimlo bod hyn wedi bod yn gyfrinachol nac yn fanwl. Roedd hi’n anhapus hefyd am y ffordd yr aeth y Bwrdd Iechyd ati i ddelio â’i chŵyn.

Nododd yr Ombwdsmon y pryderon am yr apwyntiad asesu ar-lein, a’r ymateb i’r gŵyn. Fe wnaethom gysylltu â’r Bwrdd Iechyd; cytunodd i wneud y canlynol o fewn 20 diwrnod gwaith:

• Cysylltu â Ms X i drefnu amser sy’n gyfleus i’r ddwy ochr ar gyfer asesiad iechyd meddwl wyneb yn wyneb gyda seiciatrydd i asesu ei hangen presennol am gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl, yn unol â darpariaethau’r Mesur, ac a oes angen cymorth parhaus arni gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig i Miss X am y:
a) modd y cafodd yr asesiad ar-lein ei gynnal
b) methiant i recordio’r cyfarfod i gwyno.