Dyddiad yr Adroddiad

05/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208688

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu darparu’r help a’r cymorth a oedd ei angen arni. Cwynodd hefyd, er ei bod wedi gwneud cwyn ym mis Ionawr 2023, nid oedd wedi derbyn ymateb hyd yma.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms L am ei hymchwiliad, a’i fod wedi methu ymhellach i ymateb yn amserol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms L. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms L am yr oedi a chyhoeddi ymateb ffurfiol o fewn 6 wythnos.