Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaed iddo ym mis Mehefin 2024 ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar dad.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod wrth gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â diweddaru Mr B a’i deulu’n briodol, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth iddynt. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi a’r diffyg diweddariadau, i gynnig taliad iawndal o £250 i Mr B, ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.