Dyddiad yr Adroddiad

02/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308561

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss P fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu darparu ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diweddariadau, nid oedd wedi rhoi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss P. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss P i ymddiheuro ac esbonio’r oedi cyn ymateb i’w chŵyn, cynnig talu iawndal o £50 i Miss P am yr amser a’r anghyfleustra o godi ei chŵyn â’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.