Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208531

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Mynegodd Mrs A bryderon ynghylch gofal a thriniaeth ei diweddar ŵr, Mr A. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb i Mrs A, nid oedd yn derbyn rhai o’r esboniadau a roddwyd. Cwynodd fod pryderon o hyd ynghylch a oedd Mr A yn ddigon heini i gael llawdriniaeth, yr anghysondeb o ran cael ei drosglwyddo i’r Uned Gofal Dwys a’r diagnosis.

Roedd yr Ombwdsmon yn awyddus i nodi pryderon Mrs A a oedd heb eu datrys, ac roedd yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol rhoi sylw i’w chwestiynau a oedd heb eu hateb. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhellion y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w rhoi ar waith.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i alw cyfarfod gyda Mrs A a’i Swyddog Cwynion yn bresennol. Felly, byddai’n cysylltu â’i Swyddog Cwynion o fewn 15 diwrnod gwaith i ddechrau trafodaethau am y trefniadau angenrheidiol.