Dyddiad yr Adroddiad

23/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202507699

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu trefnu cyfarfod y gofynnodd amdano ym mis Medi 2025. Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu trefnu cyfarfod â Miss X a’i heiriolwr. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn yn achosi rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, roi ymddiheuriad ac esboniad i Miss X am yr oedi a fu cyn trefnu cyfarfod a threfnu cyfarfod â Miss X a’i heiriolwr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.