Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb yn foddhaol i’w chŵyn, a phan gysylltodd â hwy gyda rhagor o bryderon, ni chafodd ymateb pellach ganddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb pellach. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i anfon ymddiheuriad ac esboniad ysgrifenedig i Mrs X, o fewn 2 wythnos, ac i gyhoeddi ymateb pellach