Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi darparu ymateb i gŵyn yr oedd ei gŵr, Mr A, wedi’i chyflwyno yng nghyswllt y gofal a’r driniaeth yr oedd ei dad, Mr B, wedi’i dderbyn gan y Bwrdd Iechyd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gofyn a oedd gan Mr A Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Mr B, gan fod Mr B yn destun gorchymyn Amddifadu o Ryddid, ond nad oedd wedi anfon ymateb ffurfiol yn amlinellu’r rhesymau pam ei fod yn credu nad oedd Mr A yn berson addas i wneud y gŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn mis, yn ysgrifennu ymateb ffurfiol at Mr A er mwyn esbonio ei resymeg.