Cwyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd i fab yr achwynydd cyn ei farwolaeth. Cwynwyd hefyd am yr ymateb a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn ffurfiol, gan fod hyn yn cynnwys y dyddiad marwolaeth a dyddiadau’r triniaethau a dderbyniwyd anghywir.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi achosi trallod i’r achwynydd oherwydd y wybodaeth anghywir a ddarparwyd yn ei ymateb i’w chwyn. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i’r achwynydd am y trallod a achoswyd drwy ddarparu gwybodaeth anghywir yn ei ymateb i’w chwyn ac i ddarparu ymateb newydd a chywir.
Roedd y gŵyn ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i fab yr achwynydd wedi mynd y tu hwnt i’r amser ac ni ellid ei ystyried ar gyfer ymchwiliad.