Dyddiad yr Adroddiad

03/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202300012

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei merch, B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cwynodd Ms A na wnaeth y Bwrdd Iechyd asesu nac archwilio symptomau B yn iawn y ddau dro cyntaf a ddaeth i’r ysbyty gan arwain felly at fethu â rhoi diagnosis o lid y pendics mewn da bryd. Cwynodd Ms A hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â thrin ei chŵyn am driniaeth ei merch yn briodol.

Casglodd yr ymchwiliad fod archwiliadau ac asesiadau priodol wedi cael eu gwneud y ddau dro cyntaf yr oedd B wedi mynychu’r ysbyty. Y tro cyntaf, roedd B wedi cael diagnosis o gastro-enteritis tebygol, neu lid y pendics posib. Yr ail dro, roedd y clinigwyr a fu’n trin B wedi chwilio’n bwrpasol am dystiolaeth o lid y pendics. Felly ni chadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Ms A.

O ran sut y cafodd cwyn Ms A ei thrin, penderfynodd yr ymchwiliad na wnaeth y Bwrdd Iechyd ddiweddaru Ms A yn ystod ei ymchwiliad, bod oedi wedi bod cyn iddi dderbyn yr adroddiad terfynol a bod rhai elfennau o’r adroddiad wedi achosi trallod a rhwystredigaeth diangen i Ms A. Felly cadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Ms A.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Ms A a chynnig talu iawndal o £125 i adlewyrchu’r trallod a’r rhwystredigaeth a achoswyd gan y methiannau wrth drin ei chŵyn.