Dyddiad yr Adroddiad

01/24/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202307183

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymateb i’w chŵyn nes i’w Haelod Seneddol (AS) fynegi’r pryderon ar ei rhan.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i bryderon Mrs A yn anffurfiol yn gyntaf. Fodd bynnag, wedi i AS Mrs A fynegi yr un pryderon, cafodd y pryderon eu trin yn anffurfiol unwaith eto pan ddylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi cofnodi cwyn ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs A i ymddiheuro am beidio â chofnodi ei phryderon fel cwyn swyddogol a chyflwyno ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.