Dyddiad yr Adroddiad

09/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201857

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd MrsP ar ran ei diweddar ŵr, Mr P, ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ac am Bractis Meddygon Teulu (“y Practis”) yn yr un ardal bwrdd iechyd. Cwynodd Mrs P am y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chwyn am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y Practis. Hefyd, cwynodd Mrs P am y driniaeth a’r gofal a gafodd Mr P gan y Practis o fis Chwefror 2021 ymlaen. Dywedodd fod y Practis wedi methu darparu ymgynghoriad â meddyg pan ddangosodd ei gŵr symptomau niwrolegol ar 17 Chwefror. Dywedodd Mrs P fod hyn wedi achosi oedi o 7 wythnos cyn i’w gŵr gael ei atgyfeirio ar gyfer adolygiad gan arbenigwr a chael diagnosis o ganser terfynol. Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi delio â chwyn Mrs P yn briodol ac ni wnaeth gadarnhau y rhan hon o’r gŵyn. Yn ogystal, canfu’r Ombwdsmon y dylai Mr P fod wedi cael archwiliad corfforol brys pan oedd ei symptomau wedi ymddangos fel pe baent wedi newid. Fodd bynnag, nid oedd y Practis wedi gwneud hyn ac mae’n debygol bod hyn wedi arwain at oedi cyn canfod bod gan Mr P diwmor ar yr ymennydd. Er gwaethaf yr oedi, ni fyddai prognosis Mr P wedi newid, gan fod y tiwmor eisoes yn fawr ac wedi ymledu’n helaeth. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o’r gŵyn. Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs P ac yn cynnal adolygiad o’i bolisïau i sicrhau na fyddai achosion o’r fath yn codi eto.