Dyddiad yr Adroddiad

09/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202304886

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu darparu ymateb ysgrifenedig i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd, yn dilyn sgwrs ffôn gyda Mrs B, wedi cau ei chwyn. Roedd Mrs B wedi e-bostio’r Bwrdd Iechyd ar ôl hynny yn gofyn am ymateb ysgrifenedig, ond nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ar hyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B ac egluro’r rhesymau pam ei fod wedi methu darparu ymateb ysgrifenedig iddi. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi cytuno i gynnig £50 o iawndal i Mrs B am ei hamser a’i thrafferth yn gwneud ei chwyn ac i gyflwyno adroddiad ysgrifenedig cyn pen 6 wythnos.