Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202300910

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs L nad oedd y gofal a’r driniaeth a gafodd ym mis Mai 2022 pan oedd yn glaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddigonol. Cwynodd ymhellach, er iddi godi pryderon yn uniongyrchol â’r Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd 2022, nad oedd wedi cael ymateb.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y bu oedi sylweddol gan y Bwrdd Iechyd cyn ymateb i gŵyn Mrs L ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am ei ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mrs L am yr oedi, i ymateb i’w chŵyn, ac i roi taliad amser a thrafferth o £100 iddi o fewn 30 diwrnod gwaith.