Dyddiad yr Adroddiad

04/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206986

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A i’r Ombwdsmon ynglŷn â’r oedi gan y Bwrdd Iechyd cyn ymateb i’w e-bost a anfonwyd yn Hydref 2022, gan herio cywirdeb ffeithiol yr ymateb i’r gŵyn . Roedd hefyd yn bryderus ynghylch y diffyg apwyntiad ar gyfer pigiadau i’r cymalau ffased a chynnydd o ran Cais Gwrthrych am Wybodaeth a gyflwynwyd.

Ni ddaeth yr Ombwdsmon o hyd i unrhyw anghyfiawnder mewn perthynas ag apwyntiad Ms A ar gyfer pigiadau i’r cymalau ffased a phenderfynodd mai mater i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth oedd y pryder ynghylch y Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd ymateb wedi’i roi i’r e-bost a anfonwyd gan Ms A. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod yr e-bost wedi cael ei adolygu a bod y gŵyn yn cael ei hail-agor.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais gan yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Ms A am yr oedi ac ymateb yn llawn i’w e-bost, o fewn 20 diwrnod gwaith.