Dyddiad yr Adroddiad

03/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207737

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms H nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i’r gŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno ym mis Ionawr 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol yn ymateb y Bwrdd Iechyd a oedd wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Ms H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms H a chynnig iawndal o £100 iddi i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi ymateb i gŵyn Ms H o fewn 4 wythnos.