Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202105739

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mr A na dderbyniodd feddyginiaeth lladd poen addas ar gyfer ei anaf hirdymor i’w fraich pan yr oedd yn y carchar (lle mai’r Bwrdd Iechyd sy’n darparu triniaeth feddygol). Casglodd yr ymchwiliad fod rhesymau meddyg teulu’r carchar dros beidio â rhoi’r un feddyginiaeth a ragnodwyd i Mr A pan oedd yn y gymuned, oherwydd y peryglon i Mr A ei hun ac yng nghyd-destun ehangach poblogaeth y carchar, yn briodol ac felly ni dderbyniwyd y gŵyn.