Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205550

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs L, er ei bod wedi lleisio pryderon am y gofal a dderbyniodd ei diweddar dad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”), nad oedd eto wedi derbyn ymateb.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio â’i weithdrefn gwyno statudol a hefyd wedi methu â diweddaru Mrs L ar yr ymchwiliad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs L a rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’w chŵyn, a thalu iawndal o £100. Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n gwneud yr uchod erbyn 31ain Ionawr 2023.