Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206355

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss L fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymateb i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei thad ym mis Gorffennaf 2022.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod Miss L yn dal i aros am ymateb gan y Bwrdd Iechyd a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a phenderfynodd nad oedd y Bwrdd wedi cydymffurfio â’i weithdrefn gwyno statudol.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Miss L, rhoi esboniad iddi am yr oedi a achoswyd a thalu £50 iddi am ei hamser a’i thrafferth, o fewn 30 diwrnod gwaith. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi ymateb ffurfiol iddi o fewn tri mis.