Dyddiad yr Adroddiad

10/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202305189

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S, er iddi godi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Mai 2023, nad oedd wedi derbyn ymateb i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu yn unol â’u gweithdrefn gwyno statudol, a’u bod wedi methu darparu diweddariadau ystyrlon i Mrs S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs S. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a chyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.