Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308308

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr F nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Mr F. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr F, cynnig iawndal iddo o £100 a chyhoeddi ymateb i’w gŵyn o fewn 6 wythnos.