Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205500

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Mawrth 2022.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn, nad oedd wedi mynd ati’n rhagweithiol i ddiweddaru Ms A ac nad oedd wedi rheoli ei disgwyliadau. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A, talu iawndal o £50 iddi, a darparu ei ymateb i gŵyn i Ms A o fewn 6 wythnos.