Dyddiad yr Adroddiad

11/24/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203209

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr F ei fod yn anfodlon ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i’w gŵyn am y gofal a thriniaeth a gafodd ei fam fel claf mewnol.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi a cham-gyfathrebu wedi bod wrth ddelio â chŵyn Mr F. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi amserlen i Mr F ar gyfer cwblhau’r achos na’i benderfyniad o ran iawndal.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr F a’i hysbysu o’r amserlen i gwblhau ei achos o fewn 10 niwrnod gwaith, ac i roi ymateb terfynol iddo o fewn 4 mis.