Dyddiad yr Adroddiad

07/27/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201269

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd wedi cael ymateb i’w gŵyn 7 mis ar ôl codi ei bryderon, er mai 30 diwrnod oedd targed y Bwrdd Iechyd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch faint o amser yr oedd y Bwrdd Iechyd yn ei gymryd i gwblhau ei ymchwiliad ac felly cysylltwyd ag ef i drafod y pryderon hynny. Eglurodd y Bwrdd Iechyd ei fod yn dod i ddiwedd yr ymchwiliad a chytunodd i gwblhau a chyhoeddi ei ymateb erbyn 4 Awst 2022 fan bellaf. Mae’r Ombwdsmon yn fodlon â’r camau y mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i’w cymryd.