Cwynodd yr achwynydd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Chwefror 2025. Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i’r gŵyn o fewn yr amserlen berthnasol a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i’r achwynydd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a rhoi esboniad am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn erbyn 30 Ionawr 2026.