Dyddiad yr Adroddiad

06/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202505376

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Gorffennaf 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb terfynol i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, a chynnig taliad iawndal ariannol o £200 i gydnabod yr oedi ac am yr amser a’r drafferth.