Cwynodd Ms X i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd, a sut nad yw wedi cael ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod Ms X wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd dros flwyddyn yn ôl, nad yw wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w chŵyn ganddo eto. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, gan gynnwys ymddiheuriad ac esboniad pam y bu oedi o 12 mis, a chynnig taliad iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi.