Dyddiad yr Adroddiad

18/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502211

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaed iddo ym mis Medi 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Mr H, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi peri rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi, ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.