Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i gŵyn ei mam, Mrs Y.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi rhai diweddariadau i Mrs Y o fewn yr amserlen ddisgwyliedig, ar adegau eraill bu’n rhaid i Mrs Y fynd ar ôl y Bwrdd Iechyd am ddiweddariad ynghylch ei chŵyn, ac nid oedd wedi rhoi ymateb iddi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs Y. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu, o fewn 3 wythnos, at Mrs Y gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau rheolaidd, cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, a chynnig talu £50 i Mrs Y i gydnabod yr oedi a’r diffyg diweddariadau rheolaidd.