Cwynodd Ms C bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a gododd ym mis Rhagfyr 2024.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu gwybodaeth i Ms C ond methodd â darparu dyddiad disgwyliedig ar gyfer cwblhau ei ymchwiliad. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms C i ddarparu dyddiad disgwyliedig ar gyfer cwblhau ei ymchwiliad.