Dyddiad yr Adroddiad

29/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502176

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd yn wreiddiol i Feddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd. Y Bwrdd Iechyd oedd yn rheoli’r Feddygfa erbyn hyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod tipyn o amser wedi mynd heibio cyn i Mrs B dderbyn ymateb i’w chŵyn, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro wrth Mrs B am yr oedi ac egluro’r rhesymau drosto, cynnig iawndal o £150, a chyflwyno ei ymateb i’r gŵyn cyn pen 6 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.