Dyddiad yr Adroddiad

15/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202501272

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Awst 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu’r ymateb ffurfiol i gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, cyn pen 4 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Mrs X am yr oedi ac egluro pam roedd hyn wedi digwydd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Yn ychwanegol at hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflwyno ymateb ffurfiol i’r gŵyn a chynnig iawndal o £150 i gydnabod yr oedi.