Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202410289

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mrs A gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i g?yn a gyflwynwyd ganddi ym mis Ionawr 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi rhesymol o ran peidio ag ymateb i’r g?yn a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi diweddariadau i Mrs A yn ystod y broses hon. Parodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth ychwanegol i Mrs A. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i ysgrifennu at Mrs A cyn pen saith diwrnod gwaith i ymddiheuro am na fu iddo roi diweddariadau iddi am hynt ei chwyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Cytunodd hefyd i roi diweddariad i Mrs A, gan egluro’r rhesymau dros yr oedi a darparu diweddariadau misol hyd nes bod yr ymchwiliad wedi dod i ben.